Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 1 Chwefror 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09: - 10:15 |
|
|||
|
|
||||
Cyfarfod Preifat |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: Cyfarfod preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman (Cadeirydd) Angela Burns Jocelyn Davies Keith Davies Suzy Davies Julie Morgan Lynne Neagle Jenny Rathbone Aled Roberts Simon Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Claire Morris (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Anne Thomas (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2. Iechyd y geg mewn plant yng Nghymru: Ystyried yr adroddiad terfynol
2.1 Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft ar iechyd y geg mewn plant a chytunwyd y dylid lansio’r adroddiad mewn ysgol sy’n cymryd rhan yn Cynllun Gwên.
3. Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: Ystyried y materion allweddol
3.1 Ar wahân i rai awgrymiadau, cytunodd yr Aelodau ar y prif faterion a godwyd yn ystod yr ymchwiliad i weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.
4. Dechrau'n Deg
4.1 Yn dilyn y sesiwn graffu ar y rhaglen Dechrau’n Deg gyda’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 26 Ionawr, cytunodd yr Aelodau y byddai’n fwy priodol ailystyried y mater hwn ymhen chwe mis.
5. Ystyried y ddeiseb sy'n galw am roi eli haul am ddim i bawb o dan 11 oed yng Nghymru
5.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i bolisi amddiffyn rhag yr haul ac i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn rhoi gwybod iddo am y penderfyniad.
6. Papurau i'w nodi
6.1 Ymchwiliad i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 - Gwybodaeth ychwanegol gan Semta
6.2 Ymchwiliad i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 - gwybodaeth ychwanegol gan ConstructionWales
6.3 Ymchwiliad i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 - gwybodaeth ychwanegol gan Cyngor Gofal Cymru